Dŵr daear yw'r dŵr sy'n cael ei storio mewn pridd a chreigiau o dan y ddaear a elwir yn ddyfrhaenau. Mae'n rhan hanfodol o’r cylch dŵr, ond yn rhan sy’n cael ei hanghofio yn aml. Mae dŵr daear yn adnodd hanfodol, gan gynnal ein ffynhonnau, ein hafonydd a'n gwlyptiroedd a darparu cynefinoedd i lawer o rywogaethau.
Gellir ei dynnu ar gyfer dŵr yfed neu i'w ddefnyddio gan ddiwydiant a ffermydd trwy ddefnyddio dyfrdyllau a phympiau. Ar hyn o bryd, mae dŵr daear yn cyflenwi tua 5% o'r cyflenwad dŵr cyhoeddus yng Nghymru, ond, mewn ardaloedd gwledig, efallai mai dŵr daear yw'r unig ffynhonnell o ddŵr hyfyw sydd ar gael ar gyfer eiddo ynysig.
Rydym yn gweld cynnydd yn y defnydd o bympiau gwres dŵr daear sy'n adfer y gwres sy'n cael ei storio'n naturiol mewn dŵr daear i gynhesu cartrefi a busnesau. Gall y systemau hyn wneud cyfraniad pwysig wrth i ni geisio lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ar gyfer gwresogi.
Diogelu dŵr daear rhag llygredd
Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i ddiogelu dŵr daear:
- os oes gennych danc olew gwresogi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wirio am arwyddion ei fod yn gollwng olew
- gwnewch yn siŵr bod eich system trin carthion yn cael ei chynnal a'i bod wedi'i chofrestru â ni
- storiwch a gwaredwch gemegion yn iawn a pheidiwch â'u tywallt ar y ddaear nac i mewn i ddraeniau
- gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio dŵr yn effeithlon o amgylch y tŷ a'r ardd
- adroddwch am ddigwyddiadau llygredd neu dynnu dŵr anghyfreithlon a amheuir
Canllawiau ar sut i atal llygredd dŵr daear
Dewch o hyd i ganllawiau manwl ar y canlynol:
- atal llygredd dŵr daear o fynwentydd
- atal llygredd dŵr daear o gladdedigaethau cartref
- atal llygredd dŵr daear o gladdedigaethau anifeiliaid
Rydym wedi mabwysiadu dull Asiantaeth yr Amgylchedd o ddiogelu dŵr daear (Saesneg yn unig). Mae hyn yn amlinellu:
- ein nodau ac amcanion ar gyfer dŵr daear
- ein dull o'i reoli a'i ddiogelu
- ein safbwynt a'n dull o gymhwyso deddfwriaeth berthnasol
- yr offer rydyn ni'n eu defnyddio i wneud ein gwaith
- canllawiau technegol ar gyfer arbenigwyr ym maes dŵr daear
Mae'r wybodaeth hon yn bennaf ar gyfer datblygwyr, cynllunwyr, ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau amgylcheddol, tynwyr dŵr, a gweithredwyr y mae eu gweithgareddau'n effeithio ar ddŵr daear.
Mae ein staff yn defnyddio'r canllawiau hyn i wneud penderfyniadau am y ceisiadau cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol yr ydym yn eu cael.
Y prif nod yw atal llygredd dŵr daear a diogelu dŵr daear fel adnodd.
Risgiau i ddŵr daear
Mae dŵr daear yn agored i lygredd, ac unwaith y bydd wedi'i lygru, gall fod yn anodd ac yn ddrud ei lanhau. Ein nod yw atal difrod i ddŵr daear yn y lle cyntaf yn hytrach na gorfod ei adfer yn ddiweddarach.
Risgiau cyffredin o lygredd dŵr daear yng Nghymru:
- gweithgareddau amaethyddol megis taenu deunydd yn amhriodol ar dir a gollyngiadau slyri
- gollyngiadau o danciau olew gwresogi domestig
- systemau trin carthion sy'n gweithredu'n wael
Mae dŵr daear hefyd mewn perygl o gael ei or-ddefnyddio mewn llawer o ardaloedd, pan fydd mwy o ddŵr yn cael ei dynnu o ddyfrhaenau nag sy'n cael ei ail-lenwi gan law. Rydym yn defnyddio ein polisïau trwyddedu ynghylch tynnu dŵr i reoli gwaith tynnu dŵr yng Nghymru er mwyn atal hyn rhag digwydd.
Bydd newid hinsawdd yn effeithio ar ddŵr daear yng Nghymru. Rydym yn disgwyl cyfnodau mwy dwys o law, wedi'u crynhoi dros gyfnod llai yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn golygu na fydd rhai o'n dyfrhaenau yn gallu llenwi cystal ag y maent nawr, ac rydym yn debygol o weld cynnydd yn y nifer o gyflenwadau dŵr daear, megis tarddellau, sy’n sychu.
Monitro dŵr daear Cymru
Rydym yn cynnal rhwydwaith o safleoedd ledled Cymru lle rydym yn monitro ansawdd a lefel dŵr daear.
- Mae data ynghylch ansawdd dŵr daear yn dangos cyflwr presennol dŵr daear yng Nghymru ac yn gadael inni weld ble y gallai fod yn cael ei lygru gan ddefnyddiau tir cyfagos. Rydym hefyd yn eu defnyddio i chwilio am fathau newydd o halogion.
- Mae data ynghylch lefel dŵr daear yn ein helpu i ddweud faint o ddŵr sydd ar gael yn ein dyfrhaenau ac yn caniatáu inni ddeall ble y gallai newid yn yr hinsawdd neu batrymau tynnu dŵr fod yn cael effaith.
Cysylltwch â ni os hoffech gael mynediad at y data hyn.
Trwyddedau ar gyfer rhyddhau i ddŵr daear
Darganfyddwch a oes angen trwydded arnoch i ryddhau i ddŵr daear
Cael rhagor o wybodaeth
Gallwch gael cyngor ar sut i reoli risgiau dŵr daear drwy ein gwasanaethau cyngor yn ôl disgresiwn:
- cyngor ar sut i gynllunio datblygiadau
- cyngor ar drwyddedu gwaith tynnu
- cyngor ar drwyddedau amgylcheddol
I gael mynediad at y data, y mapiau neu’r adroddiadau sydd gennym ynghylch dŵr daear yng Nghymru, ewch i'n tudalen Cyrchwch ein data, mapiau ac adroddiadau.