Asesiad risg dŵr daear: claddedigaethau dynol neu anifeiliaid
Mae angen i chi ddilyn y canllawiau hyn os ydych chi'n archwilio effaith bosibl neu gyfredol claddedigaethau mewn mynwent, neu'n unigol, fel rhan o asesiad risg.
Efallai y bydd angen i chi wneud asesiad risg, er enghraifft:
- fel rhan o gais cynllunio neu amod
- wrth newid cyfleusterau presennol
- yn dilyn digwyddiad llygredd
- pan fo angen rheoli amgylchedd y safle yn barhaus, er enghraifft cael gwared ar ddŵr llwyd
Mae gennym ddull haenog o asesu risg. Mae angen asesiad risg mwy manwl ar safleoedd sydd â'r risg uchaf na'r rhai sydd â'r risg isaf.
Byddwn yn gwrthwynebu unrhyw fynwentydd pan fo'r asesiad risg yn dangos bod y risg i ddŵr daear yn uchel.
Ffynhonnell, llwybr a derbynnydd
Dylech ddefnyddio dull ffynhonnell-llwybr-derbynydd i ddilyn egwyddorion y canllaw hwn.
Ar gyfer asesiadau risg dŵr daear sy'n ymwneud â chladdedigaethau:
- y ffynhonnell yw'r gweddillion dynol neu anifeiliaid claddedig
- y llwybr yw'r isbridd neu gyfrwng arall y mae sylweddau o'r ffynhonnell yn treiddio ac yn teithio drwyddo
- y derbynnydd yw dŵr daear
Gall derbynyddion dŵr daear gynnwys:
- y dŵr daear ei hun
- unrhyw ddyfrdyllau, ffynhonnau a tharddellau a ddefnyddir ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed
- ecosystemau sy'n ddibynnol ar ddŵr daear (megis cynefinoedd gwlyptiroedd) neu safleoedd cadwraeth eraill a nodwyd a allai fod mewn perygl (megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig)
I asesu'r risg ar safle, bydd angen amcangyfrif realistig arnoch o'r nifer uchaf o gladdedigaethau blynyddol sy'n digwydd neu a fydd yn digwydd, ac a yw'r rhain yn cynnwys gweddillion dynol neu anifeiliaid.
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw ymchwiliad o'r pridd a'r graig o dan yr wyneb o leiaf un metr islaw'r bedd dyfnaf.
Dylech ddefnyddio data hydroddaearegol penodol i'r safle ac, os oes angen, ceisio cymorth hydroddaearegol arbenigol i ddefnyddio'r data hyn yn eich asesiad risg.
Dull haenog o asesu risg
Rhaid i chi beidio â llygru dŵr daear. Mae angen i chi gynnal asesiad risg i ddangos:
- bod sylweddau peryglus wedi cael eu hatal rhag mynd i mewn i ddŵr daear, neu byddant yn cael eu hatal
- bydd unrhyw lygryddion nad ydynt yn beryglus sy'n mynd i mewn i ddŵr daear yn gyfyngedig fel nad ydych chi'n achosi llygredd
- na fydd halogion microbiolegol yn peryglu adnoddau dŵr na chyflenwadau dŵr yfed
Dylech ddefnyddio dull haenog ar gyfer asesiadau risg. Mae cost, amser ac ymdrech cynnal asesiad yn gymesur â'r ymdrech neu'r mesurau sydd eu hangen i wneud y risgiau sy’n deillio o'r gweithgaredd yn dderbyniol.
Ar gyfer pob haen, mae angen i chi ddatblygu model cysyniadol.
Asesiad Haen 1: sgrinio risgiau
Ar gyfer asesiad Haen 1, mae angen i chi wneud astudiaeth pen desg ac asesiad risg ansoddol. Yna gallwch asesu risg gyffredinol y cynnig fel risg isel, risg ganolig neu risg uchel. Ar gyfer risgiau uchel a chanolig, mae angen i chi gynnal asesiad risg Haen 2 neu 3 mwy manwl. Bydd angen i chi gynnal asesiad risg Haen 3 ar gyfer y mynwentydd risg uchaf.
Asesiadau Haen 2 a 3: asesiadau risg manwl
Ar gyfer asesiadau Haen 2 a 3, mae angen i chi adeiladu ar yr wybodaeth a gasglwyd gennych yn eich asesiad Haen 1 a mireinio eich model cysyniadol.
Os yw eich asesiad risg yn dangos y bydd llygredd neu hyd yn oed risg o lygredd, mae angen i chi weithio gyda'ch cyngor lleol a ni i fynd i'r afael â hyn.
Gofynion asesu risg lleiaf Haen 2 a 3
Ar gyfer asesiadau Haen 2 a 3, mae angen i chi ddarparu yr wybodaeth ganlynol o leiaf.
Disgrifiad o'r safle
Rhaid i'ch asesiad risg ddangos:
- arolwg lleol i ategu mapiau'r Arolwg Ordnans ar gyfer Haen 2
- arolwg safle cywir yn seiliedig ar leoliad, ardal a thopograffeg ar gyfer Haen 3 – marciwch unrhyw gwaith dirlunio sydd wedi'i gynnwys yn y cynnig
Nifer, math a dilyniant claddedigaethau
Rhaid i'ch asesiad risg ddangos:
- rhagamcanion y mae niferoedd blynyddol yn seiliedig arnynt ar gyfer Haen 2 – darparwch ddata ac esboniadau ategol
- y rhagamcanion Haen 2 a chynllun o'r dilyniant arfaethedig o ddefnydd yr ardal gladdu ar gyfer Haen 3 – yn nodi'r cynnydd disgwyliedig dros amser
Ffactorau meteorolegol
Ar gyfer Haen 2, rhaid i'ch asesiad risg ddangos:
- data cyfartalog hirdymor am lawiad lleol
- Data lleithder pridd System Cyfrifo Glawiad ac Anweddiad y Swyddfa Dywydd
Ar gyfer Haen 3, rhaid i'ch asesiad risg ddangos dadansoddiad o'r data sydd ar gael i ddarganfod yr holl bethau canlynol:
- glawiad effeithiol cymedrig, uchaf ac isaf misol
- data am leithder pridd ar gyfer pridd moel, llystyfiant â gwreiddiau byr, a llystyfiant â gwreiddiau dwfn
Nodweddion pridd ac isbridd
Rhaid i'ch asesiad risg ddangos:
- mapiau arolwg pridd ac ymchwiliad posibl safle a phrofion trylifiad ar gyfer Haen 2
- arolwg safle gan ddefnyddio tyllu a phyllau prawf ar gyfer Haen 3
Daeareg (gan gynnwys arwynebol) a hydroddaeareg
Ar gyfer Haen 2, rhaid i chi ddangos mapiau a hanesion daearegol a hydroddaearegol. Efallai y bydd angen i chi gynnwys hefyd:
- ymchwiliad cyfyngedig o safle (megis pyllau prawf a drilio)
- gwerthusiad o fregusrwydd dŵr daear
- presenoldeb unrhyw barthau gwarchod ffynhonnell dŵr
- asesiad o nodweddion y ddyfrhaen o ddata wedi’u cyhoeddi
Ar gyfer Haen 3, mae angen i chi ddarparu'r wybodaeth Haen 2, yn ogystal â’r canlynol:
- nodweddion creigiau a phridd
- presenoldeb unrhyw ddŵr daear bas posibl
- amrywiadau yn y lefel trwythiad a gofnodwyd am o leiaf un flwyddyn o fesuriadau misol
Rhaid i unrhyw ddyfrdyllau rydych chi’n eu ddefnyddio gael eu cynllunio'n briodol i ddiffinio amodau ffisegol y dŵr daear cyfagos. Casglwch ddata a chynhaliwch unrhyw ymchwiliadau addas (er enghraifft, i amcangyfrif athreiddedd yn seiliedig ar brawf pen syrthio, prawf disbyddu, profion olrhain).
Rhaid i chi gael o leiaf tri dyfrdwll ar gyfer ymchwilio – un ar ochr i fyny'r safle a dau yn agos at y ffin i lawr. Dylech chi allu cyfrifo cyfeiriad llif y dŵr daear o ddyfrdyllau eich ymchwiliad.
Monitro
Rhaid i'ch asesiad risg ddangos y canlynol:
- data monitro dŵr daear Haen 2
- data monitro dŵr daear Haen 3 – efallai y bydd angen cynnal gwaith monitro oddi ar y safle
Agosrwydd i ffynonellau neu adnoddau tynnu dŵr
Ar gyfer Haen 2, rhaid i'ch asesiad risg ddangos y canlynol:
- cofnodion o ddŵr trwyddedig a dynnir o fewn 1 km i'r safle
- cofnodion y cyngor lleol o gyflenwadau dŵr preifat o fewn 1 km i'r safle (gan gynnwys cyflenwadau dŵr wyneb a dŵr daear)
Mae lleoli cyflenwadau dŵr preifat gerllaw yn bwysig gan nad yw'r holl gyflenwadau hyn wedi'u trwyddedu gennym ni.
Ar gyfer Haen 3, rhaid i'ch asesiad risg ddangos yr wybodaeth Haen 2, ynghyd ag unrhyw nodweddion dŵr ychwanegol o fewn 1 km i'r safle, gan gynnwys pob un o’r canlynol:
- dŵr daear
- draeniau
- perygl llifogydd
- nodweddion dŵr wyneb (darllenwch fwy am arolygon nodweddion dŵr)
Asesiad o’r data
Rhaid i'ch asesiad risg ddangos:
- cyfrifiadau syml ar gyfer fflwcs llygryddion a chydbwysedd dŵr, megis gwanedu wrth y lefel trwythiad, ar gyfer Haen 2
- defnydd posibl o fodelau mwy soffistigedig i asesu gwanhad (yn lleihau effaith) ar gyfer Haen 3
Agosrwydd at dai neu ddatblygiadau eraill
Rhaid i asesiadau risg Haen 2 a 3 wirio ag awdurdodau cynllunio lleol, rhanbarthol neu genedlaethol i weld a oes:
- datblygiadau preswyl, addysgol, masnachol neu ddiwydiannol
- ffyrdd, rheilffyrdd a gwaith echdynnu mwynau
Monitro dŵr daear
Nid oes angen i chi fonitro'r dŵr daear ar eich safle os yw'r asesiad risg yn dangos bod y risg i ddŵr daear yn ddigon isel fel bod cynnal gwaith monitro yn ddiangen. Os oes angen i chi fonitro dŵr daear, bydd amlder a graddfa'r gwaith monitro yn dibynnu ar faint y risg.
Dilynwch yr egwyddorion monitro dŵr daear a'r canllawiau technegol ar gyfer monitro dŵr daear.
Mae angen i chi gynnal gwaith monitro er mwyn:
- diffinio ansawdd dŵr sylfaenol ac amodau ffisegol mewn dyfroedd daear a dyfroedd wyneb cyfagos cyn i waith datblygu ddechrau
- nodi'r holl dderbynyddion agored i niwed a helpu i nodi llwybrau posibl
- rhoi rhybudd cynnar o effeithiau amgylcheddol niweidiol
Os yw eich monitro yn canfod llygredd, rhaid i chi atal claddedigaethau pellach, ymchwilio, ac atal y llygredd cyn y gallwch ddechrau claddu eto. Rhaid i chi ddweud wrthym ni.
Gofynion monitro lleiaf
Efallai y bydd angen i chi ystyried pa baramedrau rydych chi'n eu monitro ar sail safle-benodol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gynnwys fformaldehyd, deunyddiau organig, sylweddau peryglus a dangosyddion bacteriol. Dylech gael cyngor proffesiynol cymwys wrth ystyried unrhyw ofynion monitro dŵr daear.
Pan fo angen i chi fonitro dŵr daear, rhaid i chi fodloni'r gofynion sylfaenol canlynol ar gyfer claddedigaethau cyn datblygu a chladdedigaethau parhaus.
Nifer lleiaf y dyfrdyllau
Rhaid i chi gael o leiaf tri dyfrdwll ar gyfer ymchwilio – un ar ochr i fyny'r safle a dau yn agos at y ffin i lawr. Dylech chi allu cyfrifo cyfeiriad llif y dŵr daear o'ch dyfrdyllau monitro.
Cyfnod monitro dyfrdyllau lleiaf
Dylech chi fonitro:
- am flwyddyn cyn datblygu'r safle
- am gyfnod o dair blynedd ar ôl y gladdedigaeth gyntaf
Ar gyfer y safleoedd sydd â'r risg uchaf, efallai y byddwn yn gofyn i chi gynyddu amlder neu faint y gwaith monitro, cyn y datblygiad ac yn y tymor hwy. Bydd unrhyw ofynion monitro ar gyfer safleoedd o'r fath wedi'u nodi yn eich trwydded amgylcheddol. Bydd hyn yn dibynnu ar sensitifrwydd y safle – gellir adolygu’r canlyniadau yn unol â hynny.
Pwyntiau monitro dŵr wyneb
Ar gyfer dyfroedd wyneb sydd mewn perygl, dylech gael un pwynt monitro i fyny'r afon ac un pwynt monitro i lawr yr afon. Dylech sicrhau eich bod yn eu monitro bob mis.
Amodau sylfaenol
Yr amlder lleiaf ar gyfer monitro amodau sylfaenol a'r gyfres fonitro (y penderfynyddion) cyn datblygu yw naill ai bob chwarter neu bob chwe mis.
Bob chwarter, dylech fonitro lefel y dŵr, pH, tymheredd, dargludedd trydanol,
ocsigen tawdd, amoniwm, cyfanswm y nitrogen ocsidiedig (nitrad a nitraid), a chlorin.
Bob chwe mis dylech fonitro am sylffad, cyfanswm y carbon organig, y galw am ocsigen biolegol, y galw am ocsigen cemegol, alcalinedd, sodiwm, potasiwm, calsiwm, magnesiwm, haearn, manganîs, cadmiwm, cromiwm, copr, nicel, plwm, sinc, ffosfforws, fformaldehyd (os caniateir yn y lleoliad claddu), a mercwri.
Monitro hirdymor
Unwaith y bydd y safle yn cael ei ddefnyddio bob chwe mis, dylech fonitro'r canlynol: lefel y dŵr, pH, tymheredd, dargludedd trydanol, ocsigen tawdd, cyfanswm y nitrogen ocsidiedig (nitrad a nitraid), cyfanswm y carbon organig, y galw am ocsigen biolegol, y galw am ocsigen cemegol, amoniwm, sylffad, clorin, sodiwm, potasiwm, calsiwm, magnesiwm, haearn, ffosfforws, fformaldehyd (os caniateir yn y lleoliad claddu), a mercwri.
Efallai y bydd angen i chi hefyd gynyddu amlder gwaith monitro ar gyfer safleoedd risg uwch neu ei leihau i fonitro blynyddol os yw'r gwaith monitro yn dangos amodau sefydlog.
Llygryddion yn cael eu rhyddhau o gyrff sy’n dadelfennu
Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth ganlynol i gyfrifo'r rhyddhad posibl o lygryddion o ddadelfennu corff dynol nodweddiadol.
Cyfansoddiad y corff dynol yn ôl canran o'i bwysau yw:
- dŵr 64%
- protein 20%
- carbohydrad 1%
- halwynau mwynau 5%
- braster 10%
Cyfansoddiad elfennol corff dynol yn seiliedig ar gorff 70 cilogram yw:
- Ocsigen 43,000 gram
- Carbon 16,000 gram
- Hydrogen 7,000 gram
- Nitrogen 1,800 gram
- Calsiwm 1,100 gram
- Ffosfforws 500 gram
- Sylffwr 140 gram
- Potasiwm 140 gram
- Sodiwm 100 gram
- Clorin 95 gram
- Magnesiwm 18 gram
- Haearn 4.2 gram
- Copr 0.07 gram
- Plwm 0.12 gram
- Cadmiwm 0.05 gram
- Nicel 0.01 gram
- Wraniwm 0.00009 gram
Ffactorau sy'n effeithio ar y gyfradd ddadelfennu
Mae dadelfennu'n dibynnu ar gyfradd gweithgarwch organebau sy'n diraddio ac ar gyfradd yr adweithiau biocemegol dan sylw. Mae ffactorau a allai ddylanwadu ar y gyfradd ddiraddio yn cynnwys:
- oedran marwolaeth
- mynegai màs y corff
- achos marwolaeth
- cyfanrwydd y corff
- dyfnder claddu
- cadwolion
Mae ffactorau sy'n gysylltiedig â'r safle yn cynnwys:
- nodweddion daearegol a hydroddaearegol y pridd, gan gynnwys math o bridd, athreiddedd a mandylledd
- nodweddion microbiolegol y pridd
- paramedrau mecanyddol, adeileddol a gwrthiant y pridd
- adeiladwaith yr arch neu gynhwysydd arall
- gorchudd tir – bydd gorchudd tir a thopograffeg yn effeithio ar ymdreiddiad a faint y mae’r tir yn llawn dŵr, a fydd yn oedi dadelfennu
- yr hinsawdd
- dyfnder y parth annirlawn
Gall y ffordd y mae'r ffactorau hyn rhyngweithio fod yn gymhleth. Mewn 80% o gladdedigaethau mewn mynwentydd, byddai’n cymryd yr amser canlynol i’r corff troi’n sgerbwd:
- 10 mlynedd ar gyfer claddu pridd
- 30 mlynedd am gladdedigaeth
Pydredd ac ymddatodiad
Mae ymddatodiad esgyrn yn broses araf a bydd yn dibynnu ar asidedd yr amgylchoedd. Gellir disgwyl i ddeunyddiau sgerbydol ymddatod yn gyflymach mewn priddoedd asidig na phriddoedd mwy niwtral.
Pan fyddwch chi'n modelu pydredd ac ymddatodiad corff dynol, dylech chi ystyried y canlynol:
- gall gymryd 10 mlynedd i gorff claddedig droi’n sgerbwd
- gall falmeiddio â fformaldehyd ohirio pydredd, ond nid oes data effeithiau meintiol ar gael – tybiwch yr un cyfraddau pydredd ar gyfer cyrff wedi'u balmeiddio a rhai nad ydynt wedi’u balmeiddio
- tybio'r un cyfraddau dadelfennu ar gyfer safleoedd claddu ‘gwyrdd’ a chonfensiynol
- mae amodau dadelfennu cychwynnol yn y bedd fel arfer yn aerobig ond mae'r corff yn cyrraedd cyflwr anaerobig yn gyflym
Dylech hefyd dybio cyfradd llinol gyson ar gyfer diraddio'r corff, ac oediadau ar gyfer cydrannau y gwyddys eu bod yn gwrthsefyll neu wedi'u cysgodi mewn rhyw ffordd. Er enghraifft:
- ni fydd pob cydran yn cael ei diraddio na'i hydoddi'n rhwydd yn ystod y broses o droi’n sgerbwd – mae ffosfforws a chalsiwm yn bresennol yn bennaf mewn asgwrn – amcangyfrifir y bydd yn cymryd tua 10 mlynedd i esgyrn ymddatod ar ôl claddu
- bydd dirywiad meinwe gan brosesau aerobig wedi’i gyfyngu gan argaeledd ocsigen – disgwyliwch iddo ddigwydd ar gyfradd gyson mewn perthynas â dyfnder, gwasgedd rhannol neu gyfradd adlenwi, unwaith y bydd yr ocsigen cychwynnol yn y bedd wedi mynd
- bydd dirywiad gan brosesau anaerobig wedi’i gyfyngu gan argaeledd derbynyddion electron a'i reoli trwy adlenwi – disgwyliwch iddo ddigwydd ar gyfradd gyson
- bydd dirywiad meinwe trwy eplesu wedi’i gyfyngu gan fynediad microbaidd i arwynebau meinwe – disgwyliwch gyfradd diraddio llinol
Mae'r amser y mae'n ei gymryd i gorff ddiflannu'n llwyr, gan gynnwys y sgerbwd, yn aneglur ac yn amrywio. Mae cyfnod nodweddiadol ar gyfer ‘amser i droi’n llwch neu gael gwared’ yn aml yn cael ei fodelu fel 100 mlynedd.
Cyfraddau ac amseriadau dadelfennu halogion
Halogydd: Calsiwm
- Màs fesul claddedigaeth: 1,100 gram
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 1,100 gram
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 10
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 100
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 12.22 gram y flwyddyn
Halogydd: Carbon (cyfraniad corff ac arch)
- Màs fesul claddedigaeth: 16,000 gram ynghyd â 10,000 gram (yn cymryd yn ganiataol fàs arch o 15,000 gram)
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 14,800 gram ynghyd â 10,000 gram (yn cymryd yn ganiataol fàs arch o 15,000 gram) Yn cymryd yn ganiataol bod 1,200 gram yn golagen a geir mewn esgyrn a meinweoedd tebyg. Mae'r colagen hwn yn cael ei ddiraddio ar ôl i’r corff troi’n sgerbwd ac felly mae'n cael ei golli dros 10 mlynedd)
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 0
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 10
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 2,480 gram y flwyddyn
Halogydd: Carbon (ffracsiwn colagen)
- Màs fesul claddedigaeth: 1,200 gram
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 1,200 gram (yn cymryd yn ganiataol fod 1,200 gram yn golagen a geir mewn esgyrn a meinweoedd tebyg mewn corff 16,000 gram. Mae'r colagen hwn yn cael ei ddiraddio ar ôl i’r corff troi’n sgerbwd ac felly mae'n cael ei golli dros 10 mlynedd)
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 10
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 20
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 120 gram y flwyddyn
Halogydd: Nitrogen (cyfraniad corff ac arch)
- Màs fesul claddedigaeth: 1,800 gram ynghyd â 500 gram (yn cymryd yn ganiataol fàs arch o 15,000 gram ac yn dibynnu ar hydrolysis catalytig resin yn digwydd yn y man a'r lle)
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 1,400 gram ynghyd â 500 gram (yn cymryd yn ganiataol fod 400 gram yn golagen a geir mewn esgyrn a meinweoedd tebyg. Mae'r colagen hwn yn cael ei ddiraddio ar ôl i’r corff troi’n sgerbwd ac felly mae'n cael ei golli dros 10 mlynedd. Hefyd yn dibynnu ar hydrolysis catalytig resin sy'n digwydd yn y man a'r lle)
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 0
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 10
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 190 gram y flwyddyn
Halogydd: Nitrogen
- Màs fesul claddedigaeth: 400 gram
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 400 gram
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 10
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 20
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 40 gram y flwyddyn
Halogydd: Mercwri
- Màs fesul claddedigaeth: 3 gram
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 3 gram
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 0
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 2,600
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 1.12 wedi’i luosi â 10 i'r minws 3 gram y flwyddyn
Halogydd: Ffosfforws
- Màs fesul claddedigaeth: 500 gram
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 500 gram
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 10
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 100
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 5.55 gram y flwyddyn
Halogydd: Fformaldehyd
- Màs fesul claddedigaeth: 180 gram
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 180 gram
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 0
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 0.25 mlynedd
- Model rhyddhau cinetig: Rhyddhad digwyddiad sengl
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: Amherthnasol
Halogydd: Fformaldehyd
- Màs fesul claddedigaeth: 500 gram (yn dibynnu ar hydrolysis catalytig resin yn digwydd yn y man a'r lle)
- Màs sydd ar gael i'w ryddhau: 500 gram (yn dibynnu ar hydrolysis catalytig resin yn digwydd yn y man a'r lle)
- Blwyddyn dechrau rhyddhau: 0
- Blwyddyn diwedd rhyddhau: 10
- Model rhyddhau cinetig: Trefn sero (yn dibynnu ar hydrolysis catalytig resin yn digwydd yn y man a'r lle)
- Cyfradd rhyddhau fesul claddedigaeth: 50 gram y flwyddyn
Cyfraddau ymdreiddio nodweddiadol
Bydd niferoedd ac agosrwydd y rhai sydd wedi'u claddu mewn mynwent neu gladdfa naturiol yn amrywio.
Pan fyddwch chi'n cynnal asesiad risg ar gyfer claddedigaethau gwyrdd, rhaid i chi ystyried y canlynol:
- dwyseddau claddu is
- p'un a yw coed neu lwyni wedi'u plannu ar y bedd – bydd hyn yn newid yr amodau biolegol ac adlenwi drwy'r bedd
Mae'r amser y mae'n ei gymryd i lygryddion fflysio o gorff claddedig yn gysylltiedig â glawiad effeithiol a'r gyfradd ymdreiddiad trwy'r pridd a'r bedd. Pan fyddwch chi'n cynnal eich asesiad risg, bydd angen i chi ystyried cyfraddau ymdreiddiad ac addasu eich cyfrifiadau yn unol â hynny.
Amcangyfrifwch gyfansoddiad cyfartalog posibl elifion sy'n cyrraedd y lefel trwythiad o dan y gladdfa trwy rannu'r rhyddhad llygrydd â chyfanswm y treiddiad blynyddol.
Isod fe welwch amcangyfrifon o faint o ddŵr sy'n ymdreiddio (litrau y flwyddyn) trwy blot bedd nodweddiadol. Mae'n seiliedig ar lawiad blynyddol cyfartalog o 650 mm a cholledion anwedd-drydarthiad nodweddiadol. Ystyrir bod pob bedd a'r ardal o'i gwmpas wedi’u canoli ar y canlynol:
- 5.06 metr sgwâr ar gyfer mynwent ddinesig nodweddiadol â 1,976 o feddau fesul hectar
- 6.32 metr sgwâr ar gyfer safleoedd claddu gwyrdd â 1,580 o feddau fesul hectar
Ar gyfer gorchudd bedd o naddion, cyfanswm yr ymdreiddiad blynyddol yw 1,250 litr wedi'i rannu rhwng ymdreiddiad arwyneb o 750 litr y flwyddyn ac ymdreiddiad o’r glaswellt o’i amgylch o 500 litr y flwyddyn.
Ar gyfer gorchudd bedd o laswellt, cyfanswm yr ymdreiddiad blynyddol yw 1,000 litr wedi'i rannu rhwng ymdreiddiad arwyneb o 500 litr y flwyddyn ac ymdreiddiad o’r glaswellt o’i amgylch o 500 litr y flwyddyn.
Ar gyfer claddedigaeth werdd, cyfanswm yr ymdreiddiad blynyddol yw 1,010 litr wedi'i rannu rhwng ymdreiddiad arwyneb o 250 litr y flwyddyn ac ymdreiddiad o’r glaswellt o’i amgylch o 760 litr y flwyddyn.
Llygryddion dŵr daear posibl o gladdedigaethau dynol
Bydd cynhyrchion terfynol dirywiad y corff yn digwydd fel a ganlyn:
- cynhyrchion nwyol anweddol megis carbon deuocsid, methan ac amonia – bydd y rhain yn mudo i fyny i'r wyneb trwy ledaeniad a llorfudiant
- cydrannau hydawdd ac mewn daliant megis amoniwm a micro-organebau – bydd y rhain yn mudo i lawr trwy'r is-wyneb gydag adlenwi
Mae'r cydrannau hydawdd ac mewn daliant mewn perygl o lygru dŵr daear. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- nitrogen amonaidd
- cyfanswm y nitrogen ocsidiedig (nitrad a nitraid)
- fformaldehyd (a ddefnyddir mewn hylif balmeiddio ac wrth gynhyrchu eirch)
- mercwri (fel amalgam mewn llenwadau deintyddol)
- metelau eraill (yn bennaf o darddiad meddygol neu emwaith)
- pathogenau (gan gynnwys bacteria a firysau)
- ffosfforws a chalsiwm (o'r asgwrn)
Gwanhau (lleihau effaith) llygryddion o safleoedd claddu
Gall llygryddion o safleoedd claddu fudo i’r canlynol:
- y parth pridd o amgylch y gladdedigaeth
- parth annirlawn y ddyfrhaen sylfaenol
- parth dirlawn y ddyfrhaen
Bydd gwahanol brosesau diraddio yn digwydd ym mhob parth. Bydd dyfnder y bedd a dyfnder y pridd o dan fedd yn effeithio ar sut mae llygryddion yn trawsnewid ac yn diraddio.
Er enghraifft, mewn parthau pridd tenau neu feddau dwfn, bydd gwanhau llygryddion o gladdedigaeth yn dibynnu mwy ar y prosesau yn y parth annirlawn a'r parth dirlawn. Bydd prosesau’r parth pridd yn llai pwysig.
Ar ôl claddedigaeth, mae’r prif brosesau gwanhau yn digwydd yn y parthau canlynol:
- y parth pridd – diraddio cemegol a biocemegol dwys, hidlo ac amsugno (fel arfer, mae digon o aer ar gyfer ocsideiddio llygryddion yn gyflym oni bai fod y pridd yn ddyfrlawn)
- y parth annirlawn – amsugno a hidlo ond llai o ddiraddio cemegol a biocemegol
- y parth dirlawn – gwanhau a gwasgaru (mae graddfa’r hidlo yn dibynnu ar natur y ddyfrhaen; mae adweithiau cemegol yn dibynnu ar gemeg y dŵr daear)
Mae llai o weithgarwch cemegol a biolegol o dan y pridd, yn y parth annirlawn. Mae lledaeniad ocsigen o'r wyneb yn isel a gall amodau ocsigen isel (anocsig) ddatblygu. Gall hyn effeithio ar gynhyrchiant rhai llygryddion (er enghraifft, nitrad). Fodd bynnag, gall adweithiau cemegol a biocemegol barhau i wanhau (lleihau effaith) llygryddion. Gall hidlo ac amsugno barhau i atal symudiad gronynnau a rhai llygryddion tawdd.
Micro-organebau a phathogenau
Gallai micro-organebau a phathogenau posibl o gyrff sy'n dadelfennu gynnwys:
- organebau ungellog a'u cyfnodau gorffwys megis giardia a chryptosporidiwm
- bacteria, ffyngau a'u sborau
- firysau
Dim ond bacteria sy'n cyflwyno bygythiad realistig o gynyddu ar ôl claddu. Ni all firysau, megis y coronafeirws, atgynhyrchu heb gell letyol fyw ac felly nid ydynt yn bryder ar ôl claddu.
Mae cludo micro-organebau a phathogenau mewn dŵr daear yn dibynnu ar eu maint, eu siâp, a sut maen nhw'n teithio trwy'r ddyfrhaen – er enghraifft, trwy fandyllau o dan yr wyneb mewn systemau dyfrhaen yn hytrach na chraciau.
Mae'r potensial i fatrics y ddyfrhaen gael gwared ar ficro-organebau a phathogenau trwy hidlo yn dibynnu ar ei natur. Pan fydd y prif lwybr ar gyfer llif dŵr daear trwy fatrics rhyngronynnog mandyllog, megis dyfrhaenau tywodfaen, mae potensial hidlo uchel.
Mae gan ddyfrhaenau lle mae craciau yw’r brif lwybr llif, megis dyfrhaenau calch, botensial cyfyngedig ar gyfer hidlo.
Mae gan ddŵr sy'n cael ei dynnu o ddyfnder bas amser teithio byrrach o fewn y ddyfrhaen. Felly, mae'n fwy tebygol o fod mewn perygl o gludo micro-organebau a phathogenau na dŵr a dynnir o ddyfnder mwy, sydd wedi bod yno am amser hirach.
Oherwydd yr amser teithio byr, mae llawer o darddellau a ffynhonnau bas yn fwy agored i broblemau llygredd microbaidd na ffynhonnau dwfn neu ddyfrdyllau.