Atal llygredd dŵr daear o fynwentydd
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer cynghorau lleol neu weithredwyr mynwentydd eraill sy'n rheoli safleoedd yng Nghymru. Mae'n nodi ein dull o reoleiddio mynwentydd i warchod dŵr daear. Yma gallwch ddod o hyd i gyngor ar y canlynol:
- mynwentydd newydd ac estyniadau i safleoedd presennol
- mynwentydd presennol
- gwaredu llwch mewn mynwentydd neu amlosgfeydd
- trefniadau ar gyfer claddedigaethau dynol mewn argyfyngau
Mynwentydd newydd ac estyniadau i safleoedd presennol
Rhaid i unrhyw fynwent newydd neu estyniad i safle presennol, gan gynnwys ailddefnyddio lleiniau bedd a dulliau ‘codi a dyfnhau’ wneud y canlynol:
- cydymffurfio â gofynion gwarchod dŵr daear gofynnol
- cynhyrchu asesiad risg dŵr daear
Mynwentydd presennol
Efallai na fydd mynwentydd presennol yn bodloni'r gofynion gwarchod dŵr daear gofynnol ac felly efallai y bydd angen rhyw fath o ymyrraeth arnynt i reoli dŵr daear ac atal llygredd. Er enghraifft, gallai fod angen draenio artiffisial a thynnu dŵr i'w symud.
Rhaid i chi gasglu unrhyw ddŵr daear sydd wedi'i ddraenio'n artiffisial, ei drin fel dŵr halogedig, a'i waredu fel dŵr budr. Bydd angen trwydded amgylcheddol arnoch i gyflawni'r camau gweithredu hyn oni bai fod gennych ganiatâd i ryddhau dŵr budr i'r brif bibell ddraenio. Cysylltwch â'ch darparwr carthffosiaeth lleol yn yr achosion hyn.
Dywedwch wrthym am unrhyw fynwentydd lle gallai fod angen yr ymyriadau hyn.
Gofynion lleiaf ar gyfer gwarchod dŵr daear
Ni ddylech gynnal unrhyw gladdedigaethau dynol o fewn:
- parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1 (SPZ1)
- 10 metr o'r draen cae agosaf. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- ffos neu ddraen tir agored sy'n cael dŵr wyneb ffo o dir cyfagos
- pibellau wedi'u claddu neu sianeli wedi’u llenwi â graean a ddefnyddir i ddraenio dŵr wyneb o gaeau trwy ddefnyddio disgyrchiant
- 50 metr o'r darddell neu'r cwrs dŵr agosaf
- 250 metr o unrhyw ffynnon, tarddell neu ddyfrdwll lle bwriedir y dŵr gael ei yfed gan unigolion neu ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd
- ardaloedd a nodwyd fel rhai sydd â nodweddion llif dŵr daear carstig – mae'r ardaloedd hyn yn agored iawn i lygredd oherwydd gall dŵr daear lifo'n gyflym trwy'r agennau a'r craciau niferus yn y creigiau
Ni ddylech gynnal unrhyw gladdedigaethau dynol ar dir sy'n agored i gael ei foddi o ddŵr wyneb neu ddŵr daear.
Dylech wneud sylfaen pob bedd o leiaf 1 metr uwchlaw'r lefel dŵr daear flynyddol uchaf a ddisgwylir. Cofiwch bob amser ystyried unrhyw gynnydd posibl yn lefel y dŵr, gan gynnwys amrywiadau tymhorol a glawiad eithafol.
Ni ddylech gloddio beddau mewn creigwely heb ei newid na heb ei hindreulio. Dyma graig solet:
- y gellir ei chladdu neu ei datgelu ar wyneb y ddaear
- nad yw wedi ei newid gan adweithiau ffisegol neu gemegol (neu'r ddau) megis dod i gysylltiad â'r tywydd
Asesiad risg dŵr daear
Rhaid i chi gwblhau asesiad risg dŵr daear fel rhan o'ch cais cynllunio.
Rydym yn defnyddio dull cymesur wrth asesu asesiadau risg dŵr daear. Bydd y risg ar gyfer pob safle yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys y canlynol:
- bregusrwydd a sensitifrwydd y dŵr daear isod
- y dyfnder i'r lefel trwythiad
- agosrwydd tyniadau dŵr daear, yn enwedig y rhai a ddefnyddir at ddibenion dŵr yfed neu gynhyrchu bwyd
- agosrwydd at gyrsiau dŵr a chynefinoedd gwlyptiroedd
- math o ddyfrhaen ac amodau hydroddaearegol lleol
- nifer a dwysedd claddedigaethau
- technegau claddu a ddefnyddir
Byddwn yn gwrthwynebu unrhyw fynwentydd pan fo'r asesiad risg yn dangos bod y risg i ddŵr daear yn uchel.
Gwaredu lludw
Rhaid i berchnogion a rheolwyr mynwentydd neu amlosgfeydd gynnal asesiad risg dŵr daear sy'n benodol i'r safle os yw lludw’n cael ei wasgaru yn eu safleoedd.
Trefniadau ar gyfer claddedigaethau dynol mewn argyfyngau
Yn ystod sefyllfa argyfwng, megis epidemig iechyd neu drychineb, mae cadw ffynonellau dŵr yfed yn ddiogel rhag halogiad yn flaenoriaeth.
Dylai cynllunwyr at argyfwng bob amser geisio defnyddio dewisiadau amgen i gladdu ar gyfer gwaredu cyrff, megis amlosgi. Ni ddylai cynlluniau ar gyfer defnyddio mynwentydd presennol, neu dir sydd wedi'i gadw ar gyfer mynwentydd newydd, effeithio ar ansawdd na diogelwch dŵr daear nac unrhyw gyflenwadau dŵr eraill.
Rhaid i gladdedigaethau brys wneud y canlynol:
- cydymffurfio â gofynion gwarchod dŵr daear gofynnol
- cynhyrchu asesiad risg dŵr daear
Rhaid i unrhyw gorffdy neu gorffdy dros dro allu cynnwys hylifau corfforol, microbau, sylweddau a chemegion. Gall hyn olygu selio draeniau er mwyn casglu hylifau’n ddiogel i’w tynnu’n ddiweddarach gan gontractwr arbenigol.