Croeso
Plannwyd Coedwig Hafren gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod y 1930au a chafodd ei henwi ar ôl Afon Hafren.
Mae Afon Hafren yn tarddu mewn mawnog ar lethrau Pumlumon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru. Daw’r afon yn ffrwd gref mewn byr o dro ac mae ei sgydau a’i rhaeadrau’n byrlymu i lawr drwy goedwig,
Mae cerdded ar hyd un o’r llwybrau sydd wedi’u harwyddo o’r maes parcio yn ffordd ardderchog o fwynhau’r afon brydferth hon.
Mae’r llwybr hiraf yn mynd â chi at darddle’r Hafren ychydig y tu allan i derfyn y goedwig.
Mae’r llwybrau byrrach yn arwain at y sgydau o fewn y goedwig, gan gynnwys y rhaeadr enwog, Dŵr-Torri-Gwddf.
Mae Coedwig Hafren hefyd yn gartref i nifer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau, a dyma’r man cychwyn ar gyfer dwy daith gerdded hir.
Mae mannau picnic ger y maes parcio a llwybr hygyrch ar lan yr afon at lwyfan gwylio sy’n edrych dros y rhaeadrau.
Llwybrau cerdded
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau yn y prif faes parcio (Rhyd-y-Benwch).
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Llwybr y Rhaeadrau
- Gradd: Hygyrch
- Pellter: ½ milltir/0.9 cilomedr
- Amser: 30 munud
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn dringo o’r maes parcio i’r llwybr pren. Mae’n dychwelyd ar lwybr llydan ag arwyneb da drwy’r goedwig.
Mae Llwybr y Rhaeadrau yn mynd i lawr at lwybr pren ar hyd glan yr afon a thros Raeadr Hafren lle gallwch eistedd a mwynhau’r olygfa oddi ar lwyfan wedi’i godi cyn dychwelyd drwy’r coed i’r maes parcio.

Llwybr Hafren-Torri-Gwddf
- Gradd: Cymedrol
- Pellter: 1½ milltir/2.3 cilomedr
- Amser: 1 awr
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r daith yn dechrau fel llwybr gwastad ar hyd yr afon, cyn esgyn i fyny rhai grisiau at lwybr pren drwy’r ddôl ac yna at lwybr cerrig at y rhaeadr. Mae grisiau cul, serth i lawr at y bont dros y rhaeadr, ac esgyniad byr ond serth yn ôl at ffordd y goedwig y mae’r llwybr yn mynd ar ei hyd yn ôl i’r maes parcio.
Mae Llwybr Hafren-Torri-Gwddf yn cychwyn ar hyd yr afon ac yna’n mynd drwy ddôl blodau gwylltion gyda rhan ohono’n llwybr pren.
Mae’n croesi pont droed lle mae Afon Hafren yn pistyllio i lawr y ceunant ac yn ffurfio rhaeadr enwog Hafren-Torri-Gwddf.
Mae’n dychwelyd i’r maes parcio ar ffordd goedwig gyda golygfeydd dros y goedwig.

Llwybr Rhaeadr Blaen Hafren
- Gradd: Cymedrol
- Pellter: 3¾ milltir/6 cilomedr
- Amser: 1½ awr
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan y llwybr at y rhaeadr arwyneb da o raean cywasgedig a cherrig rhydd. Mae’n dychwelyd ar ffordd goedwig. Mae ambell esgyniad a disgyniad serth a sawl mainc ar hyd y ffordd.
Mae’r ffordd brydferth hon yn mynd drwy grombil y goedwig ar hyd Afon Hafren at Raeadr Blaen Hafren.

Llwybr Tarddiad Hafren
- Gradd: Anodd
- Pellter: 8 milltir/13 cilomedr
- Amser: 5 awr
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan ran gyntaf y llwybr arwyneb da o raean cywasgedig a cherrig rhydd. Mae’r darn llinol at darddle Afon Hafren ar slabiau cerrig a llwybr o gerrig rhydd; efallai y bydd defaid ar y rhan hon. Byddwch yn dychwelyd ar hyd ffordd goedwig a llwybr cul o gerrig clai rhydd ar hyd yr afon. Mae rhai esgyniadau a disgyniadau serth a sawl mainc ar hyd y llwybr. Rydym wedi gosod cyfres o baneli â mapiau fel y gallwch chi weld pa mor bell ar hyd y llwybr ydych chi mewn rhai mannau allweddol. Edrychwch am yr arwydd ‘Rydych chi yma’ ar y map i weld faint o’r llwybr sydd ar ôl.
Mae Llwybr Tarddle Afon Hafren yn mynd ar hyd yr afon a thrwy’r goedwig at Raeadr Blaen Hafren.
Yna, mae’n dringo’n serth at derfyn y goedwig ac at lwybr cerrig drwy rostir corsiog at darddle Afon Hafren ar Bumlumon – mae’r tarddle wedi’i farcio â phostyn pren wedi’i gerfio.
Mae’r llwybr yn mynd heibio rhai nodweddion treftadaeth gan gynnwys maen hir ac adfeilion hen fwynglawdd a thyddyn – cadwch lygad am y paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr.

Llwybrau cerdded pellter hir
Llwybr Bro Gwy
Mae Llwybr Bro Gwy’n daith gerdded bell o 136 milltir ar hyd glan Afon Gwy i Gas-gwent.
Coedwig Hafren yw man cychwyn a diwedd y daith llinell syth hon.
Gweler Llwybr Bro Gwy.
Llwybr Afon Hafren
Mae Llwybr Afon Hafren yn daith gerdded bell 210 milltir i Fryste.
Coedwig Hafren yw man cychwyn (neu ddiwedd) y llwybr llinell syth hwn a dyma’r daith gerdded glan yr afon hiraf ym Mhrydain.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Long Distance Walkers Association.
Sarn Sabrina
Taith gron 25 milltir gydag arwyddbyst yw Sarn Sabrina, a rhan ohoni’n pasio drwy Goedwig Hafren.
Enwir y llwybr ar ôl y chwedl Geltaidd am sabrina, nymff ddŵr oedd yn byw yn nyfroedd Afon Hafren yn ôl y sôn.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sarn Sabrina.
Llwybr beicio pellter hir
Mae llwybr rhif 8 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans (Lôn Las Cymru) yn dilyn yr is-ffordd drwy Goedwig Hafren.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.
Gweilch y pysgod yng Nghoedwig Hafren
Mae gweilch y pysgod yn defnyddio nyth ger cronfa ddŵr Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren yn ystod eu tymor bridio.
Mae’r adar ysglyfaethus mawr yma’n dychwelyd i Affrica ddiwedd mis Awst.
Adeiladwyd y nyth gan ein staff ar blatfform uchel mewn coeden sbriws sitka yn 2014.
Gallwch wylio’r ffrwd fyw o'r nyth gweilch y pysgod hwn yn ystod y tymor bridio (sy’n digwydd fel arfer o fis Mawrth i fis Awst).
Mae un camera yn canolbwyntio ar y nyth tra bod un arall yn ffocysu ar gangen gerllaw.
Mae paneli solar a technoleg is-goch yn caniatáu ar gyfer ffrydio 24 awr o'r nyth, hyd yn oed yn nhywyllwch y nos.
Mae lluniau byw o'r ddau gamera ar gael ar YouTube drwy chwilio "Llyn Clywedog Ospreys".
Ymweld yn ddiogel
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
- parcio bathodyn glas
- toiledau hygyrch
- Llwybr y Rhaeadrau (llwybr hygyrch a gynlluniwyd mewn partneriaeth â chymdeithasau lleol i’r anabl
- bwrdd picnic hygyrch ar y llwyfan gwylio sy’n edrych dros y rhaeadrau
Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Trefnu digwyddiad ar ein tir
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Sut i gyrraedd yma
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Coedwig Hafren 6 milltir i’r gorllewin o Lanidloes.
Dilynwch Stryd y Bont Fer allan o Lanidloes – ceir arwydd brown a gwyn Coedwig Hafren ar ochr neuadd y dref.
Croeswch yr afon a chadw i’r chwith.
Dilynwch y ffordd gul hon am 6½ milltir, heibio’r Hen Neuadd, ac mae maes parcio Rhyd-y-benwch ar y chwith.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 857 869 (Explorer Map 214).
Y cod post yw SY18 6PT. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Cludiant cyhoeddus
Yr orsaf reilffordd agosaf yw Caersws.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Parcio
Prif faes parcio yw Rhyd-y-benwch.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.